Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

MCD

 

Teitl: Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012

 

Mae’r Rheoliadau hyn, a wnaethpwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1992 (‘Deddf 1992) yn amlinellu’r cynllun diofyn a ddaw i rym pe bai unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn methu â mabwysiadu ei gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor ei hun o dan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig) (Cymru) 2012 (‘Rheoliadau’r Gofynion Rhagnodedig’) erbyn 31 Ionawr 2013.

 

Felly, dim ond yn ystod y cyfnod pan fydd Rheoliadau’r Gofynion Rhagnodedig, sy'n gorfodi'r ddyletswydd i gael cynllun, yn berthnasol y bydd gan y Rheoliadau hyn effaith ymarferol sef, yn unol â rheoliad 1(3) o’r rheoliadau hynny, y flwyddyn ariannol 2013-14.

 

Amlinellir y cynllun diofyn a ragnodir gan Weinidogion Cymru yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn. Mae Rhannau 1 a 2 yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol a diffiniadau o eiriau a chymalau allweddol. 

 

Mae Rhan 3 ac Atodlen 1 yn cynnwys y weithdrefn ar gyfer ceisiadau am ostyngiadau ac apeliadau.  Mae Rhannau 4 a 5 yn pennu’r dosbarthiadau o bobl y mae ganddynt hawl neu nad oes ganddynt hawl i gael gostyngiad o dan y cynllun, yn y drefn honno.

 

Mae Rhannau 6 i 8 ac Atodlenni 2 a 3 yn amlinellu’r materion sy’n berthnasol i  benderfynu ar gymhwysedd pobl i gael gostyngiad a faint o ostyngiad a gânt o dan gynllun.

 

Mae Rhan 9 ac Atodlenni 4 i 9 yn amlinellu sut y caiff incwm a chyfalaf yr ymgeisydd ac eraill ei drin wrth gyfrifo cymhwysedd ar gyfer gostyngiad, gan gynnwys mewn achosion lle y dyfernir credyd cynhwysol i ymgeisydd neu i bartner.

 

Mae Rhan 10 yn darparu ar gyfer cymhwyso’r cynllun i fyfyrwyr. Mae Rhan 11 yn darparu ar gyfer gostyngiadau estynedig mewn rhai amgylchiadau ac mae Rhan 12 yn amlinellu cyfnod yr hawliad a sut y mae newid mewn amgylchiadau’n effeithio ar ostyngiad.

 

Mae rhan 13 o’r cynllun yn darparu ar gyfer gwneud cais am ostyngiad. Mae rhan 14 yn amlinellu’r amser a ganiateir i awdurdod wneud penderfyniad ar gais ac yn darparu ar gyfer hysbysu ymgeiswyr am y penderfyniad. Mae Rhan 15 yn gwneud darpariaeth am y dyfarniad neu’r taliad.

 

 

Gweithdrefn:  Cadarnhaol

 

MaterionTechnegol: Craffu

 

O dan Reol Sefydlog 21.2, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.       Nid yw’r Rheoliadau hyn wedi’u gwneud yn ddwyieithog.

 

[Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg].

 

Mae Paragraff 4 o’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio pam nad yw’r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud yn ddwyieithog:

 

“Because of the length and technical complexity of the regulations, the timeframes within which they have been compiled and the fact that they draw on council tax benefit regulations for which there is no existing translation, it has not been possible to arrange for the Regulations to be provided in Welsh.”

 

2.       Ar Dudalen 52, Pennod 5, Paragraff 53 4 (c) o’r Cynllun a amlinellir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn cyfeirir at reoliad 75 (1)(a) (ii), 75 (1) (a)(iv) a 75 (1)(b) (ii) o Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996. Yn wir, dylai’r cyfeiriadau hyn fod at reoliadau 75 (1)(a) a 75(1)(b) yn lle hynny.

 

[Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod ei waith drafftio'n ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol]

 

3.       Mae’r pwynt adrodd hwn yr un fath â'r un y cyfeirir ato uchod ond mae’n digwydd mewnrhan wahanol o’r testun. Ar dudalennau 65 a 66, Pennod 7, Paragraff 6 (b) cyfeirir at reoliad 75 (1)(a)(ii), 75 (1)(a)(iv) a 75 (1)(b)(ii) o  Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996. Yn wir, dylai’r cyfeiriadau hyn fod at reoliad 75 (1)(a) a 75 (1)(b) yn lle hynny.

 

[Rheol Sefydlog 21.2 (vi) – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio'n ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol].

 

4.       Ar dudalen 133 (Atodlen 6, paragraff 18(c)) o’r Cynllun cyfeirir at reoliad 18(3) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Yr Hawl i'w Gael a’r Gyfradd Uchaf) 2002. Yn wir, mae’r ddarpariaeth hon wedi cael ei diddymu gan reoliad 2(19) Rheoliadau Credydau Treth (Diwygiadau Amrywiol) 2012. Roedd y ddarpariaeth hon yn caniatáu i hawlwyr gael rhagor o fudd-dal/gostyngiad yn y Dreth Gyngor.

 

[Rheol Sefydlog 21.2 (vi)  – ei bod yn ymddangos bod y gwaith drafftio'n ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol].

 

 

Rhinweddau: Craffu

O dan Reol Sefydlog 21.3, gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn:-

 

1.   Mae dwy set o reoliadau’r Dreth Gyngor wedi’u gosod gerbron i'w cymeradwyo, sef Rheoliadau’r Gofyniad Rhagnodedig a rheoliadau’r cynllun diofyn. Mae Rheoliadau’r Gofyniad Rhagnodedig yn cynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol unigol yng Nghymru greu cynlluniau lleol, ac maent hefyd yn pennu nifer o feysydd a fydd yn destun disgresiwn lleol. Daw rheoliadau'r cynllun diofyn i rym os bydd awdurdodau lleol yn dewis peidio â mabwysiadu eu cynlluniau hwy eu hunain neu os na fyddant yn mabwysiadu cynlluniau o fewn y cyfnod gofynnol.

 

Os bydd awdurdodau lleol yn dymuno mabwysiadu eu cynlluniau hwy eu hunain o dan Reoliadau’r Gofynion Rhagnodedig, yna noda rheoliad 13 “each authority in Wales must make a scheme no later than the 31st January 2013, and the first financial year to which that scheme relates must be the year beginning 1 April 2013”. Oni bai bod Awdurdodau Lleol eisoes wedi dechrau gwneud eu paratoadau eu hunain ar gyfer y cynlluniau, yna mae'r amser yn brin iawn iddynt fabwysiadu eu cynlluniau hwy eu hunain.  Mae’r math o newidiadau a’r gwaith y rhagwelir y bydd angen i Awdurdodau Lleol eu gwneud er mwyn mabwysiadu eu cynlluniau eu hunain i'w gweld ar dudalennau 12 ac 13 o Femorandwm Esboniadol Rheoliadau’r Gofynion Rhagnodedig lle y ceir tabl sy'n rhestru amcangostau newid o system bresennol budd-dal y dreth gyngor i gynllun newydd (costau'r cyfnod pontio). Dyma ambell enghraifft o'r newidiadau hyn: newidiadau i system TG pob awdurdod lleol, modelu meddalwedd newydd, hyfforddi staff a rhoi cyhoeddusrwydd i'r cynlluniau newydd drwy sawl gwahanol gyfrwng.

 

2.   Ailgyflwynwyd y ddwy set o Reoliadau ar y 12fed  o Ragfyr 2012. Y gwelliant sylweddol i Reoliadau’r Gofynion Rhagnodedig oedd bod cymal “machlud” wedi’i gynnwys yn rheoliad 1. Noda Rheoliad 1(3) “These Regulations apply in relation to the financial year beginning on 1 April 2013”.Mae hyn yn cyfyngu ar gymhwyso Rheoliadau’r Gofynion Rhagnodedig a daw eu grym i ben am hanner nos 31 Mawrth 2014. Noda Rheoliad 1(4) "On or before 1 January 2014 the Welsh Ministers must publish draft regulations under section 13A(4) of the 1992 Act in respect of the financial year beginning 1 April 2014 and subsequent  financial years. Mae hyn yn golygu y caiff Rheoliadau’r Gofynion Rhagnodedig eu hailddrafftio a’u cyhoeddi erbyn neu cyn y cyntaf o Ionawr y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i’r Cynulliad ailystyried Rheoliadau'r Gofynion Rhagnodedig ymhen blwyddyn. Mae memorandwm esboniadol Rheoliadau’r Gofynion Rhagnodedig wedi cael ei ddiwygio i adlewyrchu’r newidiadau uchod (paragraffau 6, 7 ac 8).

 

Nid oes diwygiadau wedi’u gwneud i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 gan nad oedd angen unrhyw ddiwygiadau. Effaith paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 yw mai dim ond os digwydd i awdurdod lleol fethu â chydymffurfio ag unrhyw ddyletswydd a bennir mewn rheoliadau sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gyflwyno cynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor y bydd unrhyw gynllun diofyn a ragnodir mewn rheoliadau yn berthnasol. Felly, dim ond yn ystod y cyfnod pan fydd y rheoliadau Gofynion Rhagnodedig, sy'n gorfodi'r ddyletswydd i gael cynllun, yn berthnasol y bydd gan Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 effaith ymarferol sef, yn unol â rheoliad 1(3) o’r rheoliadau hynny, y flwyddyn ariannol 2013-14.

 

3.   Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn amlinellu’r gwahanol opsiynau ar gyfer gwneud Rheoliadau’r Gofynion Rhagnodediga’r canlyniadau posibl. Mae Tudalen 11 o’r Memorandwm Esboniadol yn esbonio bod diffyg yn yr arian a ddaw gan Drysorlys Ei Mawrhydi sy’n golygu, o hyn ymlaen, y bydd yn rhaid i bobl sy’n hawlio cymorth o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor dalu cyfran o’u bil treth gyngor hwy eu hunain. Noda’r Memorandwm Esboniadol “due to the funding available, the new scheme will mean that approximately 70% of current Council Tax Benefits (CTB) claimants in Wales will have to pay council tax for the first time and as a result local authorities are expecting that their council tax collection rates could fall and the costs of collecting this additional council tax could rise”.Amcangyfrifir bod disgwyl i'r cyfraddau a gesglir ostwng hyd 1.5%.

 

 

         

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Rhagfyr 2012

 

Ymateb y Llywodraeth i ddilyn